Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                        Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol cywiro’r croesgyfeiriad mewn ffont italig gan mai darpariaeth anweithredol ydyw. Mae’r ddarpariaeth dod i rym yn rheoliad 1 o’r offeryn yn gywir felly mae’r offeryn yn effeithiol yn gyfreithiol.

Serch hynny, ar y cyd â Chofrestrydd yr Offerynnau Statudol rydym wedi archwilio’r posibilrwydd o gywiro’r croesgyfeiriad drwy gyfrwng slip cywiro, er mwyn sicrhau bod y gyfraith mor eglur â phosibl. Mae Cofrestrydd yr Offerynnau Statudol wedi cytuno â’r ymagwedd hon a bydd yr offeryn yn cael ei gywiro.